Y Cyfarfod Llawn

 

Dyddiad y cyfarfod:
Dydd Mercher, 25 Chwefror 2015

 

 

Amser y cyfarfod:
13.30

 

 

 

 

Pleidleisiau a Thrafodion

(249)

 

<AI1>

1     Cwestiynau i'r Gweinidog Cyfoeth Naturiol

 

Dechreuodd yr eitem am 13.30

 

Gofynnwyd yr 11 cwestiwn cyntaf. Cafodd cwestiynau 2 a 4 eu grwpio. Atebwyd cwestiynau 1, 2, 4 ac 8 gan y Dirprwy Weinidog Ffermio a Bwyd. Gwahoddodd y Llywydd Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.

 

</AI1>

<AI2>

2     Cwestiynau i’r Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi

 

Dechreuodd yr eitem am 14.15

 

Gofynnwyd y 10 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.

 

</AI2>

<AI3>

3     Datganiad gan Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth: Y diweddaraf am y cyhoeddiad ynghylch Grŵp Bwyd y 2 Sisters Cyf

 

Dechreuodd yr eitem am 15.00

 

</AI3>

<AI4>

4     Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar ei ymchwiliad i fynediad at dechnolegau meddygol yng Nghymru

 

Dechreuodd yr eitem am 15.17

 

NDM5700 David Rees (Aberafan)

 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru

 

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol i fynediad at dechnolegau meddygol yng Nghymru, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 17 Rhagfyr 2014.

 

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

 

</AI4>

<AI5>

5     Dadl y Ceidwadwyr Cymreig

 

Dechreuodd yr eitem am 15.59

 

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

 

NDM5701 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gymryd camau brys i sicrhau bod targedau'r GIG yng Nghymru yn cael eu cwrdd.

 

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

39

0

10

49

Derbyniwyd y cynnig heb ei ddiwygio.

 

</AI5>

<AI6>

6     Dadl Democratiaid Rhyddfrydol Cymru

 

Dechreuodd yr eitem am 16.54

 

Oherwydd nam technegol gyda’r system feicroffonau, cafodd y trafodion eu hatal am 17.18. Cafodd y gloch ei chanu cyn ailymgynnull am 17.30.

 

NDM5702 Aled Roberts (Gogledd Cymru)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru

 

1. Yn nodi:       

 

a) bod y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn amcangyfrif y bydd un o bob pedwar oedolyn ym Mhrydain yn profi problem iechyd meddwl o fewn unrhyw flwyddyn benodol;

 

b) bod Sefydliad Iechyd y Byd yn amcangyfrif y cynrychiolir 20% o'r 'baich afiechyd' yn y DU gan salwch meddwl ond mai dim ond 11% o wariant y GIG sy'n cael ei wario ar iechyd meddwl;

 

c) y gall problemau iechyd meddwl ryngweithio â chyflyrau eraill i waethygu lles unigolyn ymhellach;

 

d) yn ôl Prif Swyddog Meddygol y Deyrnas Unedig, fod tri chwarter o anhwylderau meddwl ymysg oedolion yn dod i'r amlwg erbyn iddynt droi'n 21 oed, ond nad yw tri chwarter o'r plant a'r bobl ifanc sydd â'r anhwylderau hyn wedi cael diagnosis neu gael eu trin;

 

e) bod Stats Cymru wedi dangos bod pobl ifanc o dan 18 oed yn cynrychioli 85% o'r boblogaeth a wnaeth aros mwy na 18 wythnos ym mis Rhagfyr 2014 rhwng cael eu hatgyfeirio a chael eu triniaeth gyntaf ar gyfer problemau iechyd meddwl;

 

f) y canfu gwaith ymchwil gan Mind na fyddai 1 o bob 3 o weithwyr yn y DU yn gallu siarad yn agored â'u rheolwyr llinell am straen.

 

2. Yn croesawu gwaith ardderchog y trydydd sector o ran codi ymwybyddiaeth o les iechyd meddwl.

 

3. Yn credu bod yn rhaid i fwy gael ei wneud i gefnogi pobl i ofalu am eu hiechyd meddwl eu hunain.

 

4. Yn credu bod yn rhaid cael cydraddoldeb o ran y pwyslais a roddir ar iechyd meddwl a chorfforol.

 

5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

 

a) cynnal astudiaeth i bennu pa gyllid ac adnoddau ychwanegol sydd eu hangen ar gyfer darpariaeth iechyd meddwl yng Nghymru er mwyn sicrhau cydraddoldeb o ran y pwyslais a roddir ar wasanaethau iechyd meddwl a chorfforol;

 

b) ehangu seiciatreg gyswllt yn y GIG i ddarparu cymorth gofal iechyd meddwl ar gyfer pobl sy'n cael eu trin ar gyfer problemau iechyd corfforol;

 

c) cynnig hyfforddiant cymorth iechyd meddwl a chyngor i bawb sy'n gweithio'n agos gyda phlant;

 

d) sicrhau bod pob athro dan hyfforddiant newydd yn cael hyfforddiant cymorth iechyd meddwl sylfaenol fel rhan o'r statws athro cymwysedig;

 

e) sicrhau bod cyflogwyr yn sicrhau bod gweithleoedd yn cynnig amgylchedd sy'n ystyriol o iechyd meddwl.

 

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

 

</AI6>

<AI7>

7     Cyfnod pleidleisio

 

Dechreuodd yr eitem am 17.49

 

</AI7>

<AI8>

</AI8>

<AI9>

8     Dadl Fer

 

Dechreuodd yr eitem am 17.51

 

NDM5703 Andrew RT Davies (Canol De Cymru)

 

Adnabod eich prostad!

 

Canser y prostad yng Nghymru - yr afiechyd cudd.

 

</AI9>

<TRAILER_SECTION>

 

Daeth y cyfarfod i ben am 18.11

 

Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mawrth, 3 Mawrth 2015

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

 

FIELD_SUMMARY

 

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

 

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

 

</COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

FIELD_SUMMARY

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>